1 Salm yw 'nghof o lyfr ofydd
2 Son om serch am ferch a fydd
3 [128v] heb gael cydymmaith dan llaw
4 I addef pob dim iddaw
5 Mae vn fel y dymvnwyf
6 Browdddyn ym o brydydd nwyf
7 cymmorthiad i'm cariad caeth
8 cynghorwr cangav hiraeth
9 ni bv ddynan fechan fach
10 os mvl hi ysmalhayach
11 Ni wna nemmor o dwyllfreg
12 Na nyny'n dav y nyn deg
13 Ac yntev a ddechrevawdd
14 cynnyrchiad sain cariad cawdd
15 Gware gau gwyddyn pa ham
16 Ir eigr bryd a orvgam
17 knav im llaw ddeav ddiwg
18 ym y don a mi ai dwg
19 Pys irgyll rhydd gwydd gwilchwynt
20 Pam y mae tav orddgnav ynt
21 I danfon ym rym rwymbleth
22 O bwy eb ef o ba beth
23 Edrych er na laesych les
24 [129r] Ai dyn fwyn ai danfones
25 Meinir vn fryd a manwawn
26 Morfydd deg mawr fydd i dawn
27 Ai kar di y dyn beirddglwyf
28 kar od gwn karedig wyf
29 Om car gad yna em cant
30 kyfnifer cof a nwyfiant
31 dvgym i'r cnav golev goel
32 doniog myn dduw a deinioel
37 Yskynwas wyf ys keinoed
38 Os gwir cael ysgwier coed
39 Os cywydd crefydd nim cred
40 Os cael gwir ys cael gwared
41 Oed mewn irgoed mwyn argoel
42 A fydd onid celwydd coel
43 fflaccede{u} a phlv coedydd
44 I gyd gweddaidd ammyd gwydd
45 Pand balleg tew i knewyll
46 Pefr fottymmav cangav cyll
49 Nid ananwyl dwyn annerch
50 [129v] O fotymmav siamplav serch
51 Nis tyr min er glothineb
52 Yscolan wyf nis gwyl neb
53 Ni thorrir wir warafvn
54 A charreg befr anrheg bvn
55 Minne fy hvn im llvniaeth
56 O gnav y mab rhad ai gwnaeth
57 Iw glwysbryd cyn llvdw glasbridd
58 A dalaf bwyth ffrwyth y ffridd
Da' ap Glm'